Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 18:20-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ac na chydorwedd gyda gwraig dy gymydog, i fod yn aflan o'i phlegid.

21. Ac na ddod o'th had i fyned trwy dân i Moloch: ac na haloga enw dy Dduw: myfi yw yr Arglwydd.

22. Ac na orwedd gyda gwryw, fel gorwedd gyda benyw: ffieidd‐dra yw hynny.

23. Ac na chydorwedd gydag un anifail, i fod yn aflan gydag ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: cymysgedd yw hynny.

24. Nac ymhalogwch yn yr un o'r pethau hyn: canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o'ch blaen chwi:

25. A'r wlad a halogwyd: am hynny yr ydwyf yn ymweled â'i hanwiredd yn ei herbyn, fel y chwydo'r wlad ei thrigolion.

26. Ond cedwch chwi fy neddfau a'm barnedigaethau i, ac na wnewch ddim o'r holl ffiaidd bethau hyn; na'r priodor, na'r dieithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg:

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 18