Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 18:14-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Na noetha noethni brawd dy dad; sef na nesâ at ei wraig ef: dy fodryb yw hi.

15. Na noetha noethni dy waudd: gwraig dy fab yw hi; na noetha ei noethni hi.

16. Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd: noethni dy frawd yw.

17. Na noetha noethni gwraig a'i merch; na chymer ferch ei mab hi, neu ferch ei merch hi, i noethi ei noethni hi: ei chyfnesaf hi yw y rhai hyn: ysgelerder yw hyn.

18. Hefyd na chymer wraig ynghyd â'i chwaer, i'w chystuddio hi, gan noethi noethni honno gyda'r llall, yn ei byw hi.

19. Ac na nesâ at wraig yn neilltuaeth ei haflendid, i noethi ei noethni hi.

20. Ac na chydorwedd gyda gwraig dy gymydog, i fod yn aflan o'i phlegid.

21. Ac na ddod o'th had i fyned trwy dân i Moloch: ac na haloga enw dy Dduw: myfi yw yr Arglwydd.

22. Ac na orwedd gyda gwryw, fel gorwedd gyda benyw: ffieidd‐dra yw hynny.

23. Ac na chydorwedd gydag un anifail, i fod yn aflan gydag ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: cymysgedd yw hynny.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 18