1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
3. Na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad yr Aifft, yr hon y trigasoch ynddi; ac na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad Canaan, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi; ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt.
4. Fy marnedigaethau i a wnewch, a'm deddfau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
5. Ie, cedwch fy neddfau a'm barnedigaethau: a'r dyn a'u cadwo, a fydd byw ynddynt: myfi yw yr Arglwydd.