1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
3. Na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad yr Aifft, yr hon y trigasoch ynddi; ac na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad Canaan, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi; ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt.
4. Fy marnedigaethau i a wnewch, a'm deddfau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
5. Ie, cedwch fy neddfau a'm barnedigaethau: a'r dyn a'u cadwo, a fydd byw ynddynt: myfi yw yr Arglwydd.
6. Na nesaed neb at gyfnesaf ei gnawd, i ddinoethi eu noethni: myfi yw yr Arglwydd.
7. Noethni dy dad, neu noethni dy fam, na ddinoetha: dy fam yw hi, na ddinoetha ei noethni.
8. Na ddinoetha noethni gwraig dy dad: noethni dy dad yw.
9. Noethni dy chwaer, merch dy dad, neu ferch dy fam, yr hon a anwyd gartref, neu a anwyd allan; na ddinoetha eu noethni hwynt.
10. Noethni merch dy fab, neu ferch dy ferch; na ddinoetha eu noethni hwynt: canys dy noethni di ydyw.