4. Gwisged bais liain sanctaidd, a bydded llodrau lliain am ei gnawd, a gwregyser ef â gwregys lliain, a gwisged feitr lliain: gwisgoedd sanctaidd yw y rhai hyn; golched yntau ei gnawd mewn dwfr, pan wisgo hwynt.
5. A chymered gan gynulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech‐aberth, ac un hwrdd yn boethoffrwm.
6. Ac offrymed Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ.
7. A chymered y ddau fwch, a gosoded hwynt gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
8. A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch; un coelbren dros yr Arglwydd, a'r coelbren arall dros y bwch dihangol.
9. A dyged Aaron y bwch y syrthiodd coelbren yr Arglwydd arno, ac offrymed ef yn bech‐aberth.
10. A'r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dihangol, a roddir i sefyll yn fyw gerbron yr Arglwydd, i wneuthur cymod ag ef, ac i'w ollwng i'r anialwch yn fwch dihangol.
11. A dyged Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ; a lladded fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun:
12. A chymered lonaid thuser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi gerbron yr Arglwydd, a llonaid ei ddwylo o arogl‐darth peraidd mân, a dyged o fewn y wahanlen:
13. A rhodded yr arogl‐darth ar y tân, gerbron yr Arglwydd; fel y cuddio mwg yr arogl‐darth y drugareddfa, yr hon sydd ar y dystiolaeth, ac na byddo efe farw: