Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 14:8-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A golched yr hwn a lanheir ei ddillad, ac eillied ei holl flew, ac ymolched mewn dwfr; a glân fydd: a deued wedi hynny i'r gwersyll, a thriged o'r tu allan i'w babell saith niwrnod.

9. A'r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew, sef ei ben, a'i farf, ac aeliau ei lygaid; ie, eillied ei holl flew; a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; a glân fydd.

10. A'r wythfed dydd cymered ddau oen perffaith‐gwbl, ac un hesbin flwydd berffaith‐gwbl, a thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, ac un log o olew.

11. A gosoded yr offeiriad a lanhao, y gŵr a lanheir, a hwynt hefyd, gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

12. A chymered yr offeiriad un hesbwrn, ac offrymed ef yn aberth dros gamwedd, a'r log o olew, a chyhwfaned hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.

13. A lladded ef yr oen yn y lle y lladder y pech‐aberth, a'r poethoffrwm; sef yn y lle sanctaidd: oherwydd yr aberth dros gamwedd sydd eiddo'r offeiriad, yn gystal â'r pech‐aberth: sancteiddiolaf yw.

14. A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd, a rhodded yr offeiriad ef ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau ef.

15. A chymered yr offeiriad o'r log olew, a thywallted ar gledr ei law aswy ei hun:

16. A gwlyched yr offeiriad ei fys deau yn yr olew fyddo ar ei law aswy, a thaenelled o'r olew â'i fys seithwaith gerbron yr Arglwydd.

17. Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law, y dyd yr offeiriad ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar waed yr offrwm dros gamwedd.

18. A'r rhan arall o'r olew fyddo ar law yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd.

19. Ie, offrymed yr offeiriad aberth dros bechod, a gwnaed gymod dros yr hwn a lanheir oddi wrth ei aflendid; ac wedi hyny lladded y poethoffrwm.

20. Ac aberthed yr offeiriad y poethoffrwm, a'r bwyd‐offrwm, ar yr allor; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a glân fydd.

21. Ond os tlawd fydd, a'i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymered un oen, yn aberth dros gamwedd, i'w gyhwfanu, i wneuthur cymod drosto, ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew yn fwyd‐offrwm, a log o olew;

22. A dwy durtur, neu ddau gyw colomen, y rhai a gyrhaeddo ei law: a bydded un yn bech‐aberth, a'r llall yn boethoffrwm.

23. A dyged hwynt yr wythfed dydd i'w lanhau ef at yr offeiriad, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd.

24. A chymered yr offeiriad oen yr offrwm dros gamwedd, a'r log olew, a chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 14