6. A chymered efe yr aderyn byw, a'r coed cedr, a'r ysgarlad, a'r isop, a throched hwynt a'r aderyn byw hefyd yng ngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegog.
7. A thaenelled seithwaith ar yr hwn a lanheir oddi wrth y gwahanglwyf, a barned ef yn lân; yna gollynged yr aderyn byw yn rhydd ar wyneb y maes.
8. A golched yr hwn a lanheir ei ddillad, ac eillied ei holl flew, ac ymolched mewn dwfr; a glân fydd: a deued wedi hynny i'r gwersyll, a thriged o'r tu allan i'w babell saith niwrnod.
9. A'r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew, sef ei ben, a'i farf, ac aeliau ei lygaid; ie, eillied ei holl flew; a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; a glân fydd.
10. A'r wythfed dydd cymered ddau oen perffaith‐gwbl, ac un hesbin flwydd berffaith‐gwbl, a thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, ac un log o olew.
11. A gosoded yr offeiriad a lanhao, y gŵr a lanheir, a hwynt hefyd, gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
12. A chymered yr offeiriad un hesbwrn, ac offrymed ef yn aberth dros gamwedd, a'r log o olew, a chyhwfaned hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
13. A lladded ef yr oen yn y lle y lladder y pech‐aberth, a'r poethoffrwm; sef yn y lle sanctaidd: oherwydd yr aberth dros gamwedd sydd eiddo'r offeiriad, yn gystal â'r pech‐aberth: sancteiddiolaf yw.
14. A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd, a rhodded yr offeiriad ef ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau ef.
15. A chymered yr offeiriad o'r log olew, a thywallted ar gledr ei law aswy ei hun:
16. A gwlyched yr offeiriad ei fys deau yn yr olew fyddo ar ei law aswy, a thaenelled o'r olew â'i fys seithwaith gerbron yr Arglwydd.
17. Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law, y dyd yr offeiriad ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar waed yr offrwm dros gamwedd.
18. A'r rhan arall o'r olew fyddo ar law yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd.