Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 14:43-55 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

43. Ond os daw'r pla drachefn, a tharddu yn y tŷ, wedi tynnu'r cerrig, ac wedi crafu'r tŷ, ac wedi priddo;

44. Yna doed yr offeiriad, ac edryched: ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahanglwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe.

45. Yna tynned y tŷ i lawr, ei gerrig, a'i goed, a holl bridd y tŷ; a bwried i'r tu allan i'r ddinas i le aflan.

46. A'r hwn a ddêl i'r tŷ yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau, efe a fydd aflan hyd yr hwyr.

47. A'r hwn a gysgo yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yr hwn a fwytao yn y tŷ, golched ei ddillad.

48. Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edrych; ac wele, ni ledodd y pla yn y tŷ, wedi priddo'r tŷ: yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân, oherwydd iacháu y pla.

49. A chymered i lanhau y tŷ ddau aderyn y to, a choed cedr ac ysgarlad, ac isop.

50. A lladded y naill aderyn mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog.

51. A chymered y coed cedr, a'r isop, a'r ysgarlad, a'r aderyn byw, a throched hwynt yng ngwaed yr aderyn a laddwyd, ac yn y dwfr rhedegog, a thaenelled ar y tŷ seithwaith.

52. A glanhaed y tŷ â gwaed yr aderyn, ac â'r dwfr rhedegog, ac â'r aderyn byw, ac â'r coed cedr, ac â'r isop, ac â'r ysgarlad.

53. A gollynged yr aderyn byw allan o'r ddinas ar wyneb y maes, a gwnaed gymod dros y tŷ; a glân fydd.

54. Dyma gyfraith am bob pla'r clwyf gwahanol, ac am y ddufrech,

55. Ac am wahanglwyf gwisg, a thŷ,

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 14