Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 14:38-49 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

38. Yna aed yr offeiriad allan o'r tŷ, i ddrws y tŷ, a chaeed y tŷ saith niwrnod.

39. A'r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn, ac edryched: ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ;

40. Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt dynnu'r cerrig y byddo y pla arnynt, a bwriant hwynt allan o'r ddinas i le aflan.

41. A phared grafu'r tŷ o'i fewn o amgylch; a thywalltant y llwch a grafont, o'r tu allan i'r ddinas i le aflan.

42. A chymerant gerrig eraill, a gosodant yn lle y cerrig hynny; a chymered bridd arall, a phridded y tŷ.

43. Ond os daw'r pla drachefn, a tharddu yn y tŷ, wedi tynnu'r cerrig, ac wedi crafu'r tŷ, ac wedi priddo;

44. Yna doed yr offeiriad, ac edryched: ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahanglwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe.

45. Yna tynned y tŷ i lawr, ei gerrig, a'i goed, a holl bridd y tŷ; a bwried i'r tu allan i'r ddinas i le aflan.

46. A'r hwn a ddêl i'r tŷ yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau, efe a fydd aflan hyd yr hwyr.

47. A'r hwn a gysgo yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yr hwn a fwytao yn y tŷ, golched ei ddillad.

48. Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edrych; ac wele, ni ledodd y pla yn y tŷ, wedi priddo'r tŷ: yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân, oherwydd iacháu y pla.

49. A chymered i lanhau y tŷ ddau aderyn y to, a choed cedr ac ysgarlad, ac isop.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 14