32. Dyma gyfraith yr un y byddo pla'r gwahanglwyf arno, yr hwn ni chyrraedd ei law yr hyn a berthyn i'w lanhad.
33. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
34. Pan ddeloch i dir Canaan, yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant, os rhoddaf bla gwahanglwyf ar dŷ o fewn tir eich meddiant;
35. A dyfod o'r hwn biau'r tŷ, a dangos i'r offeiriad, gan ddywedyd, Gwelaf megis pla yn y tŷ:
36. Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt arloesi'r tŷ, cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla; fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ: ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ;
37. Ac edryched ar y pla: ac wele, os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ, yn agennau gwyrddleision neu gochion, a'r olwg arnynt yn is na'r pared;
38. Yna aed yr offeiriad allan o'r tŷ, i ddrws y tŷ, a chaeed y tŷ saith niwrnod.
39. A'r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn, ac edryched: ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ;
40. Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt dynnu'r cerrig y byddo y pla arnynt, a bwriant hwynt allan o'r ddinas i le aflan.
41. A phared grafu'r tŷ o'i fewn o amgylch; a thywalltant y llwch a grafont, o'r tu allan i'r ddinas i le aflan.
42. A chymerant gerrig eraill, a gosodant yn lle y cerrig hynny; a chymered bridd arall, a phridded y tŷ.
43. Ond os daw'r pla drachefn, a tharddu yn y tŷ, wedi tynnu'r cerrig, ac wedi crafu'r tŷ, ac wedi priddo;
44. Yna doed yr offeiriad, ac edryched: ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahanglwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe.