25. A lladded oen yr offrwm dros gamwedd; a chymered yr offeiriad o waed yr offrwm dros gamwedd, a rhodded ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau.
26. A thywallted yr offeiriad o'r olew ar gledr ei law aswy ei hun:
27. Ac â'i fys deau taenelled yr offeiriad o'r olew fyddo ar gledr ei law aswy, seithwaith gerbron yr Arglwydd.
28. A rhodded yr offeiriad o'r olew a fyddo ar gledr ei law, ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar y man y byddo gwaed yr offrwm dros gamwedd.
29. A'r rhan arall o'r olew fyddo ar gledr llaw yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir, i wneuthur cymod drosto gerbron yr Arglwydd.
30. Yna offrymed un o'r turturau, neu o'r cywion colomennod, sef o'r rhai a gyrhaeddo ei law ef;
31. Y rhai, meddaf, a gyrhaeddo ei law ef, un yn bech‐aberth, ac un yn boethoffrwm, ynghyd â'r bwyd‐offrwm: a gwnaed yr offeiriad gymod dros yr hwn a lanheir gerbron yr Arglwydd.
32. Dyma gyfraith yr un y byddo pla'r gwahanglwyf arno, yr hwn ni chyrraedd ei law yr hyn a berthyn i'w lanhad.
33. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
34. Pan ddeloch i dir Canaan, yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant, os rhoddaf bla gwahanglwyf ar dŷ o fewn tir eich meddiant;
35. A dyfod o'r hwn biau'r tŷ, a dangos i'r offeiriad, gan ddywedyd, Gwelaf megis pla yn y tŷ:
36. Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt arloesi'r tŷ, cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla; fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ: ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ;
37. Ac edryched ar y pla: ac wele, os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ, yn agennau gwyrddleision neu gochion, a'r olwg arnynt yn is na'r pared;
38. Yna aed yr offeiriad allan o'r tŷ, i ddrws y tŷ, a chaeed y tŷ saith niwrnod.
39. A'r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn, ac edryched: ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ;
40. Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt dynnu'r cerrig y byddo y pla arnynt, a bwriant hwynt allan o'r ddinas i le aflan.
41. A phared grafu'r tŷ o'i fewn o amgylch; a thywalltant y llwch a grafont, o'r tu allan i'r ddinas i le aflan.
42. A chymerant gerrig eraill, a gosodant yn lle y cerrig hynny; a chymered bridd arall, a phridded y tŷ.
43. Ond os daw'r pla drachefn, a tharddu yn y tŷ, wedi tynnu'r cerrig, ac wedi crafu'r tŷ, ac wedi priddo;
44. Yna doed yr offeiriad, ac edryched: ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahanglwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe.