16. Ond ymhen y tridiau wedi iddynt wneuthur cyfamod â hwynt, hwy a glywsant mai cymdogion iddynt oeddynt hwy, ac mai yn eu mysg yr oeddynt yn aros.
17. A meibion Israel a gychwynasant, ac a ddaethant i'w dinasoedd hwynt y trydydd dydd: a'u dinasoedd hwynt oedd Gibeon, a Cheffira, Beeroth hefyd, a Chiriathjearim.
18. Ond ni thrawodd meibion Israel mohonynt hwy; oblegid tywysogion y gynulleidfa a dyngasai wrthynt myn Arglwydd Dduw Israel: a'r holl gynulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion.
19. A'r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynulleidfa, Ni a dyngasom wrthynt i Arglwydd Dduw Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt.
20. Hyn a wnawn ni iddynt hwy: Cadwn hwynt yn fyw, fel na byddo digofaint arnom ni; oherwydd y llw a dyngasom wrthynt.
21. A'r tywysogion a ddywedasant wrthynt, Byddant fyw, (ond byddant yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i'r holl gynulleidfa,) fel y dywedasai'r tywysogion wrthynt.
22. Yna Josua a alwodd arnynt; ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham y twyllasoch ni, gan ddywedyd, Pell iawn ydym ni oddi wrthych; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni?
23. Yn awr gan hynny melltigedig ydych: ac ni ddianc un ohonoch rhag bod yn gaethweision, ac yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i dŷ fy Nuw.
24. A hwy a atebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddiau gan fynegi y mynegwyd i'th weision, ddarfod i'r Arglwydd dy Dduw orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o'ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn.
25. Ac yn awr, wele ni yn dy law di: fel y byddo da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni, gwna.
26. Ac felly y gwnaeth efe iddynt; ac a'u gwaredodd hwynt o law meibion Israel, fel na laddasant hwynt.
27. A Josua a'u rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymynwyr coed, ac yn wehynwyr dwfr, i'r gynulleidfa, ac i allor yr Arglwydd, hyd y dydd hwn, yn y lle a ddewisai efe.