Hen Destament

Testament Newydd

Josua 9:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wedi clywed hyn o'r holl frenhinoedd, y rhai oedd o'r tu yma i'r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lannau y môr mawr, ar gyfer Libanus; sef yr Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Canaaneaid, a'r Pheresiaid, a'r Hefiaid, a'r Jebusiaid;

2. Yna hwy a ymgasglasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josua, ac yn erbyn Israel, o unfryd.

3. A thrigolion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethai Josua i Jericho ac i Ai.

4. A hwy a wnaethant yn gyfrwys, ac a aethant, ac a ymddangosasant fel cenhadon: cymerasant hefyd hen sachlennau ar eu hasynnod, a hen gostrelau gwin, wedi eu hollti hefyd, ac wedi eu rhwymo,

5. A hen esgidiau baglog am eu traed, a hen ddillad amdanynt; a holl fara eu lluniaeth oedd sych a brithlwyd:

6. Ac a aethant at Josua i'r gwersyll i Gilgal; a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Israel, O wlad bell y daethom: ac yn awr gwnewch gyfamod â ni.

7. A gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Hefiaid, Nid hwyrach dy fod yn ein mysg yn trigo; pa fodd gan hynny y gwnaf gyfamod â thi?

8. A hwy a ddywedasant wrth Josua, Dy weision di ydym ni. A Josua a ddywedodd wrthynt, Pwy ydych? ac o ba le y daethoch?

9. A hwy a ddywedasant wrtho, Dy weision a ddaethant o wlad bell iawn, oherwydd enw yr Arglwydd dy Dduw: canys ni a glywsom ei glod ef, a'r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aifft;

10. A'r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r Iorddonen; i Sehon brenin Hesbon, ac i Og brenin Basan, yr hwn oedd yn Astaroth.

11. Am hynny ein henuriaid ni, a holl breswylwyr ein gwlad, a lefarasant wrthym ni, gan ddywedyd, Cymerwch luniaeth gyda chwi i'r daith, ac ewch i'w cyfarfod hwynt; a dywedwch wrthynt, Eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfamod â ni.

12. Dyma ein bara ni: yn frwd y cymerasom ef yn lluniaeth o'n tai y dydd y cychwynasom i ddyfod atoch; ac yn awr, wele, sych a brithlwyd yw.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 9