Hen Destament

Testament Newydd

Josua 7:19-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. A Josua a ddywedodd wrth Achan, Fy mab, atolwg, dyro ogoniant i Arglwydd Dduw Israel, a chyffesa iddo; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost: na chela oddi wrthyf.

20. Ac Achan a atebodd Josua, ac a ddywedodd, Yn wir myfi a bechais yn erbyn Arglwydd Dduw Israel; canys fel hyn ac fel hyn y gwneuthum.

21. Pan welais ymysg yr ysbail fantell Fabilonig deg, a dau can sicl o arian, ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys; yna y chwenychais hwynt, ac a'u cymerais: ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear yng nghanol fy mhabell, a'r arian danynt.

22. Yna Josua a anfonodd genhadau; a hwy a redasant i'r babell: ac wele hwynt yn guddiedig yn ei babell ef, a'r arian danynt.

23. Am hynny hwy a'u cymerasant o ganol y babell, ac a'u dygasant at Josua, ac at holl feibion Israel; ac a'u gosodasant hwy o flaen yr Arglwydd.

24. A Josua a gymerth Achan mab Sera, a'r arian, a'r fantell, a'r llafn aur, ei feibion hefyd, a'i ferched, a'i wartheg, a'i asynnod, ei ddefaid hefyd, a'i babell, a'r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gydag ef a'u dygasant hwynt i ddyffryn Achor.

25. A Josua a ddywedodd, Am i ti ein blino ni, yr Arglwydd a'th flina dithau y dydd hwn. A holl Israel a'i llabyddiasant ef â meini, ac a'u llosgasant hwy â thân, wedi eu llabyddio â meini.

26. A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 7