Hen Destament

Testament Newydd

Josua 4:7-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Yna y dywedwch wrthynt, Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfamod yr Arglwydd; pan oedd hi yn myned trwy 'r Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith. Y mae'r cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth.

8. A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchmynasai Josua; ac a gymerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen, fel y llefarasai yr Arglwydd wrth Josua, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel, ac a'u dygasant drosodd gyda hwynt i'r llety ac a'u cyfleasant yno.

9. A Josua a osododd i fyny ddeuddeg carreg yng nghanol yr Iorddonen, yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch y cyfamod, yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.

10. A'r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a safasant yng nghanol yr Iorddonen, nes gorffen pob peth a orchmynasai yr Arglwydd i Josua ei lefaru wrth y bobl, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses wrth Josua: a'r bobl a frysiasant, ac a aethant drosodd.

11. A phan ddarfu i'r holl bobl fyned drosodd, yna arch yr Arglwydd a aeth drosodd, a'r offeiriaid, yng ngŵydd y bobl.

12. Meibion Reuben hefyd, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a aethant drosodd yn arfogion o flaen meibion Israel, fel y llefarasai Moses wrthynt:

13. Ynghylch deugain mil, yn arfogion i ryfel, a aethant drosodd o flaen yr Arglwydd i ryfel, i rosydd Jericho.

14. Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a'i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 4