14. Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a'i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes.
15. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd,
16. Gorchymyn i'r offeiriaid, sydd yn dwyn arch y dystiolaeth, ddyfod ohonynt i fyny allan o'r Iorddonen.
17. Am hynny Josua a orchmynnodd i'r offeiriaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny allan o'r Iorddonen.
18. A phan ddaeth yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, i fyny o ganol yr Iorddonen, a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i'w lle, ac a aethant, megis cynt, dros ei holl geulennydd.
19. A'r bobl a ddaethant i fyny o'r Iorddonen y degfed dydd o'r mis cyntaf; ac a wersyllasant yn Gilgal, yn eithaf tu dwyrain Jericho.
20. A'r deuddeg carreg hynny, y rhai a ddygasent o'r Iorddonen, a sefydlodd Josua yn Gilgal.
21. Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn i'w tadau, gan ddywedyd, Beth yw y cerrig hyn?
22. Yna yr hysbyswch i'ch meibion, gan ddywedyd, Israel a ddaeth trwy'r Iorddonen hon ar dir sych.
23. Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o'ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i'r môr coch, yr hwn a sychodd efe o'n blaen ni, nes i ni fyned drwodd:
24. Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr Arglwydd, mai nerthol yw; fel yr ofnoch yr Arglwydd eich Duw bob amser.