Hen Destament

Testament Newydd

Josua 24:19-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr Arglwydd; canys Duw sancteiddiol yw efe: Duw eiddigus yw; ni ddioddef efe eich anwiredd, na'ch pechodau.

20. O gwrthodwch yr Arglwydd, a gwasanaethu duwiau dieithr; yna efe a dry, ac a'ch dryga chwi, ac efe a'ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni.

21. A'r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nage; eithr ni a wasanaethwn yr Arglwydd.

22. A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis ohonoch i chwi yr Arglwydd i'w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ydym.

23. Am hynny yn awr (eb efe) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel.

24. A'r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandawn.

25. Felly Josua a wnaeth gyfamod â'r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem.

26. A Josua a ysgrifennodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Dduw, ac a gymerth faen mawr, ac a'i gosododd i fyny yno dan dderwen oedd yn agos i gysegr yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 24