Hen Destament

Testament Newydd

Josua 22:9-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a ddychwelasant, ac a aethant ymaith oddi wrth feibion Israel, o Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, i fyned i wlad Gilead, i wlad eu meddiant hwy, yr hon a feddianasant, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.

10. A phan ddaethant i gyffiniau yr Iorddonen, y rhai sydd yng ngwlad Canaan, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant yno allor wrth yr Iorddonen, allor fawr mewn golwg.

11. A chlybu meibion Israel ddywedyd, Wele, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant allor ar gyfer gwlad Canaan, wrth derfynau yr Iorddonen, gan ystlys meibion Israel.

12. A phan glybu meibion Israel hynny, yna holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, i ddyfod i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel.

13. A meibion Israel a anfonasant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasse, i wlad Gilead, Phinees mab Eleasar yr offeiriad,

14. A deg o dywysogion gydag ef, un tywysog o bob tŷ, pennaf trwy holl lwythau Israel; a phob un oedd ben yn nhŷ eu tadau, ymysg miloedd Israel.

15. A hwy a ddaethant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasse, i wlad Gilead; ac a ymddiddanasant â hwynt, gan ddywedyd,

16. Fel hyn y dywed holl gynulleidfa yr Arglwydd, Pa gamwedd yw hwn a wnaethoch yn erbyn Duw Israel, gan ddychwelyd heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd, pan adeiladasoch i chwi allor, i wrthryfela heddiw yn erbyn yr Arglwydd?

17. Ai bychan gennym ni anwiredd Peor, yr hwn nid ymlanhasom oddi wrtho eto hyd y dydd hwn, er bod pla ymysg cynulleidfa yr Arglwydd,

18. Ond bod i chwi droi ymaith heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd? Ac am i chwi wrthryfela heddiw yn erbyn yr Arglwydd, efe a lidia yfory yn erbyn holl gynulleidfa Israel.

19. Ac od yw gwlad eich meddiant chwi yn aflan, deuwch drosodd i wlad meddiant yr Arglwydd, yr hon y mae tabernacl yr Arglwydd yn aros ynddi, a chymerwch feddiant yn ein mysg ni: ond na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac na childynnwch i'n herbyn ninnau, trwy adeiladu ohonoch i chwi eich hun allor, heblaw allor yr Arglwydd ein Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 22