25. Canys yr Arglwydd a roddodd yr Iorddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi: meibion Reuben, a meibion Gad, nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd. Felly y gwnâi eich meibion chwi i'n meibion ni beidio ag ofni yr Arglwydd.
26. Am hynny y dywedasom, Gan adeiladu gwnawn yn awr i ni allor: nid i boethoffrwm, nac i aberth;
27. Eithr i fod yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hôl, i gael ohonom wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd ger ei fron ef, â'n poethoffrymau, ac â'n hebyrth, ac â'n hoffrymau hedd; fel na ddywedo eich meibion chwi ar ôl hyn wrth ein meibion ni, Nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd.
28. Am hynny y dywedasom, Pan ddywedont hwy felly wrthym ni, neu wrth ein hepil ar ôl hyn; yna y dywedwn ninnau, Gwelwch lun allor yr Arglwydd, yr hon a wnaeth ein tadau ni, nid i boethoffrwm, nac i aberth; ond i fod yn dyst rhyngom ni a chwi.
29. Na ato Duw i ni wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd a dychwelyd heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd; gan adeiladu allor i boethoffrwm, i fwyd‐offrwm, neu i aberth, heblaw allor yr Arglwydd ein Duw yr hon sydd gerbron ei dabernacl ef.