Hen Destament

Testament Newydd

Josua 22:22-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Arglwydd Dduw y duwiau, Arglwydd Dduw y duwiau, efe sydd yn gwybod, ac Israel yntau a gaiff wybod, os mewn gwrthryfel, neu mewn camwedd yn erbyn yr Arglwydd y bu hyn, (na wareder ni y dydd hwn,)

23. Os adeiladasom i ni allor i droi oddi ar ôl yr Arglwydd, neu os offrymasom arni boethoffrwm, neu fwyd‐offrwm, neu os aberthasom arni ebyrth hedd; yr Arglwydd ei hun a'i gofynno:

24. Ac onid rhag ofn y peth yma y gwnaethom hyn; gan ddywedyd, Ar ôl hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninnau, gan ddywedyd, Beth sydd i chwi a wneloch ag Arglwydd Dduw Israel?

25. Canys yr Arglwydd a roddodd yr Iorddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi: meibion Reuben, a meibion Gad, nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd. Felly y gwnâi eich meibion chwi i'n meibion ni beidio ag ofni yr Arglwydd.

26. Am hynny y dywedasom, Gan adeiladu gwnawn yn awr i ni allor: nid i boethoffrwm, nac i aberth;

27. Eithr i fod yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hôl, i gael ohonom wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd ger ei fron ef, â'n poethoffrymau, ac â'n hebyrth, ac â'n hoffrymau hedd; fel na ddywedo eich meibion chwi ar ôl hyn wrth ein meibion ni, Nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd.

28. Am hynny y dywedasom, Pan ddywedont hwy felly wrthym ni, neu wrth ein hepil ar ôl hyn; yna y dywedwn ninnau, Gwelwch lun allor yr Arglwydd, yr hon a wnaeth ein tadau ni, nid i boethoffrwm, nac i aberth; ond i fod yn dyst rhyngom ni a chwi.

29. Na ato Duw i ni wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd a dychwelyd heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd; gan adeiladu allor i boethoffrwm, i fwyd‐offrwm, neu i aberth, heblaw allor yr Arglwydd ein Duw yr hon sydd gerbron ei dabernacl ef.

30. A phan glybu Phinees yr offeiriad, a thywysogion y gynulleidfa, a phenaethiaid miloedd Israel y rhai oedd gydag ef, y geiriau a lefarasai meibion Reuben, a meibion Gad, a meibion Manasse, da oedd y peth yn eu golwg hwynt.

31. Phinees mab Eleasar yr offeiriad a ddywedodd wrth feibion Reuben, ac wrth feibion Gad, ac wrth feibion Manasse, Heddiw y gwybuom fod yr Arglwydd yn ein plith; oherwydd na wnaethoch y camwedd hwn yn erbyn yr Arglwydd: yn awr gwaredasoch feibion Israel o law yr Arglwydd.

32. Am hynny y dychwelodd Phinees mab Eleasar yr offeiriad, a'r tywysogion, oddi wrth feibion Reuben, ac oddi wrth feibion Gad, o wlad Gilead, i wlad Canaan, at feibion Israel, ac a ddygasant drachefn air iddynt.

33. A da oedd y peth yng ngolwg meibion Israel; a meibion Israel a fendithiasant Dduw, ac ni soniasant am fyned i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel, i ddifetha y wlad yr oedd meibion Reuben a meibion Gad yn preswylio ynddi.

34. A meibion Reuben a meibion Gad a alwasant yr allor Ed: canys tyst fydd hi rhyngom ni, mai yr Arglwydd sydd Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 22