Hen Destament

Testament Newydd

Josua 22:19-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Ac od yw gwlad eich meddiant chwi yn aflan, deuwch drosodd i wlad meddiant yr Arglwydd, yr hon y mae tabernacl yr Arglwydd yn aros ynddi, a chymerwch feddiant yn ein mysg ni: ond na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac na childynnwch i'n herbyn ninnau, trwy adeiladu ohonoch i chwi eich hun allor, heblaw allor yr Arglwydd ein Duw.

20. Oni wnaeth Achan mab Sera gamwedd, oherwydd y diofryd‐beth, fel y bu digofaint yn erbyn holl gynulleidfa Israel? ac efe oedd un gŵr; eto nid efe yn unig a fu farw am ei anwiredd.

21. Yna meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a atebasant, ac a lefarasant wrth benaethiaid miloedd Israel;

22. Arglwydd Dduw y duwiau, Arglwydd Dduw y duwiau, efe sydd yn gwybod, ac Israel yntau a gaiff wybod, os mewn gwrthryfel, neu mewn camwedd yn erbyn yr Arglwydd y bu hyn, (na wareder ni y dydd hwn,)

23. Os adeiladasom i ni allor i droi oddi ar ôl yr Arglwydd, neu os offrymasom arni boethoffrwm, neu fwyd‐offrwm, neu os aberthasom arni ebyrth hedd; yr Arglwydd ei hun a'i gofynno:

24. Ac onid rhag ofn y peth yma y gwnaethom hyn; gan ddywedyd, Ar ôl hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninnau, gan ddywedyd, Beth sydd i chwi a wneloch ag Arglwydd Dduw Israel?

25. Canys yr Arglwydd a roddodd yr Iorddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi: meibion Reuben, a meibion Gad, nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd. Felly y gwnâi eich meibion chwi i'n meibion ni beidio ag ofni yr Arglwydd.

26. Am hynny y dywedasom, Gan adeiladu gwnawn yn awr i ni allor: nid i boethoffrwm, nac i aberth;

27. Eithr i fod yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hôl, i gael ohonom wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd ger ei fron ef, â'n poethoffrymau, ac â'n hebyrth, ac â'n hoffrymau hedd; fel na ddywedo eich meibion chwi ar ôl hyn wrth ein meibion ni, Nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd.

28. Am hynny y dywedasom, Pan ddywedont hwy felly wrthym ni, neu wrth ein hepil ar ôl hyn; yna y dywedwn ninnau, Gwelwch lun allor yr Arglwydd, yr hon a wnaeth ein tadau ni, nid i boethoffrwm, nac i aberth; ond i fod yn dyst rhyngom ni a chwi.

29. Na ato Duw i ni wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd a dychwelyd heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd; gan adeiladu allor i boethoffrwm, i fwyd‐offrwm, neu i aberth, heblaw allor yr Arglwydd ein Duw yr hon sydd gerbron ei dabernacl ef.

30. A phan glybu Phinees yr offeiriad, a thywysogion y gynulleidfa, a phenaethiaid miloedd Israel y rhai oedd gydag ef, y geiriau a lefarasai meibion Reuben, a meibion Gad, a meibion Manasse, da oedd y peth yn eu golwg hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 22