Y rhai hyn oedd ddinasoedd gosodedig i holl feibion Israel, ac i'r dieithr a ymdeithiai yn eu mysg hwynt; fel y ffoai pawb iddynt a'r a laddai neb mewn amryfusedd; ac na byddai marw trwy law dialydd y gwaed, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa.