Hen Destament

Testament Newydd

Josua 19:9-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. O randir meibion Jwda yr oedd etifeddiaeth meibion Simeon: canys rhan meibion Jwda oedd ormod iddynt; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt.

10. A'r trydydd coelbren a ddaeth i fyny dros feibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid.

11. A'u terfyn hwynt sydd yn myned i fyny tua'r môr, a Marala, ac yn cyrhaeddyd i Dabbaseth; ac yn cyrhaeddyd i'r afon sydd ar gyfer Jocneam;

12. Ac yn troi o Sarid, o du y dwyrain tua chyfodiad haul, hyd derfyn Cisloth‐Tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn esgyn i Jaffia;

13. Ac yn myned oddi yno ymlaen tua'r dwyrain, i Gittah‐Heffer, i Ittah‐Casin; ac yn myned allan i Rimmon‐Methoar, i Nea.

14. A'r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon; a'i ddiweddiad yng nglyn Jifftahel.

15. Cattath hefyd, a Nahalal, a Simron, ac Idala, a Bethlehem: deuddeg o ddinasoedd, a'u pentrefydd.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 19