7. Ain, Rimmon, ac Ether, ac Asan; pedair o ddinasoedd, a'u pentrefydd:
8. A'r holl bentrefydd y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn, hyd Baalath‐beer, Ramath o'r deau. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Simeon, yn ôl eu teuluoedd.
9. O randir meibion Jwda yr oedd etifeddiaeth meibion Simeon: canys rhan meibion Jwda oedd ormod iddynt; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt.
10. A'r trydydd coelbren a ddaeth i fyny dros feibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid.
11. A'u terfyn hwynt sydd yn myned i fyny tua'r môr, a Marala, ac yn cyrhaeddyd i Dabbaseth; ac yn cyrhaeddyd i'r afon sydd ar gyfer Jocneam;
12. Ac yn troi o Sarid, o du y dwyrain tua chyfodiad haul, hyd derfyn Cisloth‐Tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn esgyn i Jaffia;
13. Ac yn myned oddi yno ymlaen tua'r dwyrain, i Gittah‐Heffer, i Ittah‐Casin; ac yn myned allan i Rimmon‐Methoar, i Nea.
14. A'r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon; a'i ddiweddiad yng nglyn Jifftahel.
15. Cattath hefyd, a Nahalal, a Simron, ac Idala, a Bethlehem: deuddeg o ddinasoedd, a'u pentrefydd.