Hen Destament

Testament Newydd

Josua 19:45-51 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

45. A Jehud, a Bene‐berac, a Gath‐rimmon,

46. A Meiarcon, a Raccon, gyda'r terfyn ar gyfer Jaffo.

47. A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fychan iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fyny i ymladd yn erbyn Lesem, ac a'i henillasant hi; trawsant hefyd hi â min y cleddyf, a meddianasant hi, a thrigasant ynddi: a galwasant Lesem yn Dan, yn ôl enw Dan eu tad.

48. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn, a'u pentrefydd.

49. Pan orffenasant rannu'r wlad yn etifeddiaethau yn ôl ei therfynau, meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg:

50. Wrth orchymyn yr Arglwydd y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynnodd efe; sef Timnath‐Sera, ym mynydd Effraim: ac efe a adeiladodd y ddinas, ac a drigodd ynddi.

51. Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddiaeth, wrth goelbren, yn Seilo, o flaen yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. Felly y gorffenasant rannu'r wlad.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 19