34. A'r terfyn sydd yn troi tua'r gorllewin i Asnoth‐Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Sabulon o du y deau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Jwda a'r Iorddonen tua chyfodiad haul.
35. A'r dinasoedd caerog, Sidim, Ser, a Hammath, Raccath, a Chinnereth,
36. Ac Adama, a Rama, a Hasor,
37. A Cedes, ac Edrei, ac En‐hasor,
38. Ac Iron, a Migdal‐el, Horem, a Beth‐anath, a Beth‐semes: pedair dinas ar bymtheg, a'u pentrefydd.
39. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a'u pentrefydd.
40. Y seithfed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd.
41. A therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd Sora, ac Estaol, ac Ir‐Semes,
42. A Saalabbin, ac Ajalon, ac Ithla,
43. Ac Elon, a Thimnatha, ac Ecron,
44. Ac Eltece, a Gibbethon, a Baalath,
45. A Jehud, a Bene‐berac, a Gath‐rimmon,
46. A Meiarcon, a Raccon, gyda'r terfyn ar gyfer Jaffo.
47. A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fychan iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fyny i ymladd yn erbyn Lesem, ac a'i henillasant hi; trawsant hefyd hi â min y cleddyf, a meddianasant hi, a thrigasant ynddi: a galwasant Lesem yn Dan, yn ôl enw Dan eu tad.
48. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn, a'u pentrefydd.
49. Pan orffenasant rannu'r wlad yn etifeddiaethau yn ôl ei therfynau, meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg:
50. Wrth orchymyn yr Arglwydd y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynnodd efe; sef Timnath‐Sera, ym mynydd Effraim: ac efe a adeiladodd y ddinas, ac a drigodd ynddi.
51. Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddiaeth, wrth goelbren, yn Seilo, o flaen yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. Felly y gorffenasant rannu'r wlad.