27. Ac yn troi tua chyfodiad haul i Beth‐dagon, ac yn cyrhaeddyd i Sabulon, ac i ddyffryn Jifftahel, tua'r gogledd i Beth‐Emec, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul;
28. A Hebron, a Rehob, a Hammon, a Cana, hyd Sidon fawr.
29. A'r terfyn sydd yn troi i Rama, ac hyd Sor, y ddinas gadarn: a'r terfyn sydd yn troi i Hosa; a'i gyrrau eithaf sydd wrth y môr, o randir Achsib.
30. Umma hefyd, ac Affec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain, a'u pentrefydd.
31. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn a'u pentrefydd.
32. Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Nafftali, dros feibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd.
33. A'u terfyn hwy oedd o Heleff, o Alon i Saanannim, ac Adami, Neceb, a Jabneel hyd Lacum: a'i gyrrau eithaf oedd wrth yr Iorddonen.
34. A'r terfyn sydd yn troi tua'r gorllewin i Asnoth‐Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Sabulon o du y deau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Jwda a'r Iorddonen tua chyfodiad haul.