8. O Tappua y mae y terfyn yn myned tua'r gorllewin i afon Cana; a'i gyrrau eithaf sydd wrth y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Effraim, yn ôl eu teuluoedd.
9. A dinasoedd neilltuedig meibion Effraim oedd ymysg etifeddiaeth meibion Manasse; yr holl ddinasoedd, a'u pentrefydd.
10. Ond ni oresgynasant hwy y Canaaneaid, y rhai oedd yn trigo yn Geser: am hynny y trigodd y Canaaneaid ymhlith yr Effraimiaid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanaethu dan dreth.