Hen Destament

Testament Newydd

Josua 16:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A rhandir meibion Joseff oedd yn myned o'r Iorddonen wrth Jericho, i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain, i'r anialwch sydd yn myned i fyny o Jericho i fynydd Bethel;

2. Ac yn myned o Bethel i Lus, ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth;

3. Ac yn disgyn tua'r gorllewin i ardal Jaffleti, hyd derfyn Beth‐horon isaf, ac hyd Geser: a'i gyrrau eithaf sydd hyd y môr.

4. Felly meibion Joseff, Manasse ac Effraim, a gymerasant eu hetifeddiaeth.

5. A therfyn meibion Effraim oedd yn ôl eu teuluoedd; a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt o du y dwyrain, oedd Ataroth‐adar, hyd Beth‐horon uchaf.

6. A'r terfyn sydd yn myned tua'r môr, i Michmethath o du y gogledd; a'r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath‐Seilo, ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janoha:

7. Ac yn myned i waered o Janoha, i Ataroth, a Naarath; ac yn cyrhaeddyd i Jericho, ac yn myned allan i'r Iorddonen.

8. O Tappua y mae y terfyn yn myned tua'r gorllewin i afon Cana; a'i gyrrau eithaf sydd wrth y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Effraim, yn ôl eu teuluoedd.

9. A dinasoedd neilltuedig meibion Effraim oedd ymysg etifeddiaeth meibion Manasse; yr holl ddinasoedd, a'u pentrefydd.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 16