1. A rhandir meibion Joseff oedd yn myned o'r Iorddonen wrth Jericho, i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain, i'r anialwch sydd yn myned i fyny o Jericho i fynydd Bethel;
2. Ac yn myned o Bethel i Lus, ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth;
3. Ac yn disgyn tua'r gorllewin i ardal Jaffleti, hyd derfyn Bethâhoron isaf, ac hyd Geser: a'i gyrrau eithaf sydd hyd y môr.