Hen Destament

Testament Newydd

Josua 13:27-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Ac yn y dyffryn, Beth‐Aram, a Beth‐Nimra, a Succoth, a Saffon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon, yr Iorddonen a'i therfyn, hyd gwr môr Cinneroth, o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o du y dwyrain.

28. Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a'u trefydd.

29. Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd:

30. A'u terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, trigain dinas;

31. A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse, sef i hanner meibion Machir, yn ôl eu teuluoedd.

32. Dyma y gwledydd a roddodd Moses i'w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho, o du y dwyrain.

33. Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: Arglwydd Dduw Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt, fel y llefarodd efe wrthynt.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 13