Hen Destament

Testament Newydd

Josua 13:21-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A holl ddinasoedd y gwastadedd, a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, gyda thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, dugiaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad.

22. Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â'r cleddyf, ymhlith eu lladdedigion hwynt.

23. A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a'i goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a'u trefi.

24. Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd;

25. A Jaser oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rabba;

26. Ac o Hesbon hyd Ramath‐Mispe, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir;

27. Ac yn y dyffryn, Beth‐Aram, a Beth‐Nimra, a Succoth, a Saffon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon, yr Iorddonen a'i therfyn, hyd gwr môr Cinneroth, o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o du y dwyrain.

28. Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a'u trefydd.

29. Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd:

Darllenwch bennod gyflawn Josua 13