Hen Destament

Testament Newydd

Josua 11:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Phan glybu Jabin brenin Hasor y pethau hynny, efe a anfonodd at Jobab brenin Madon, ac at frenin Simron, ac at frenin Achsaff,

2. Ac at y brenhinoedd oedd o du y gogledd yn y mynydd‐dir, ac yn y rhostir tua'r deau i Cinneroth, ac yn y dyffryn, ac yn ardaloedd Dor tua'r gorllewin;

3. At y Canaaneaid o'r dwyrain a'r gorllewin, ac at yr Amoriaid, a'r Hethiaid, a'r Pheresiaid, a'r Jebusiaid, yn y mynydd‐dir, ac at yr Hefiaid dan Hermon, yng ngwlad Mispe.

4. A hwy a aethant allan, a'u holl fyddinoedd gyda hwynt, pobl lawer, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra; meirch hefyd a cherbydau lawer iawn.

5. A'r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant; daethant hefyd a gwersyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.

6. A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt hwy: canys yfory ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri, a'u cerbydau a losgi di â thân.

7. Felly Josua a ddaeth a'r holl bobl o ryfel gydag ef, yn ddisymwth arnynt hwy wrth ddyfroedd Meron; a hwy a ruthrasant arnynt.

8. A'r Arglwydd a'u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a'u trawsant hwynt, ac a'u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misreffoth‐maim, ac hyd glyn Mispe o du y dwyrain; a hwy a'u trawsant hwynt, fel na adawodd efe ohonynt un yng ngweddill.

9. A Josua a wnaeth iddynt fel yr archasai yr Arglwydd iddo: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe, a'u cerbydau a losgodd â thân.

10. A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd, ac a enillodd Hasor, ac a drawodd ei brenin hi â'r cleddyf: canys Hasor o'r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny.

11. Trawsant hefyd bob enaid a'r oedd ynddi â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: ni adawyd un perchen anadl: ac efe a losgodd Hasor â thân.

12. A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny, a'u holl frenhinoedd hwynt, a enillodd Josua, ac a'u trawodd â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 11