Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Jona 4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu ddrwg iawn gan Jona hyn, ac efe a ddigiodd yn fawr.

2. Ac efe a weddïodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, Arglwydd, oni ddywedais i hyn pan oeddwn eto yn fy ngwlad? am hynny yr achubais flaen i ffoi i Tarsis; am y gwyddwn dy fod di yn Dduw graslon a thrugarog, hwyrfrydig i ddig, aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.

3. Am hynny yn awr, O Arglwydd, cymer, atolwg, fy einioes oddi wrthyf: canys gwell i mi farw na byw.

4. A'r Arglwydd a ddywedodd, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot?

5. A Jona a aeth allan o'r ddinas, ac a eisteddodd o'r tu dwyrain i'r ddinas, ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun, ac a eisteddodd dano yn y cysgod, hyd oni welai beth a fyddai yn y ddinas.

6. A'r Arglwydd Dduw a ddarparodd gicaion, ac a wnaeth iddo dyfu dros Jona, i fod yn gysgod uwch ei ben ef, i'w waredu o'i ofid: a bu Jona lawen iawn am y cicaion.

7. A'r Arglwydd a baratôdd bryf ar godiad y wawr drannoeth, ac efe a drawodd y cicaion, ac yntau a wywodd.

8. A phan gododd haul, bu i Dduw ddarparu poethwynt y dwyrain; a'r haul a drawodd ar ben Jona, fel y llewygodd, ac y deisyfodd farw o'i einioes, ac a ddywedodd, Gwell i mi farw na byw.

9. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jona, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot am y cicaion? Ac efe a ddywedodd, Da yw i mi ymddigio hyd angau.

10. A'r Arglwydd a ddywedodd, Ti a dosturiaist wrth y cicaion ni lafuriaist wrtho, ac ni pheraist iddo dyfu: mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu:

11. Ac oni arbedwn i Ninefe y ddinas fawr, yr hon y mae ynddi fwy na deuddeng myrdd o ddynion, y rhai ni wyddant ragor rhwng eu llaw ddeau a'u llaw aswy, ac anifeiliaid lawer?