Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Jona 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A gair yr Arglwydd a ddaeth yr ail waith at Jona, gan ddywedyd,

2. Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthyt.

3. A Jona a gyfododd ac a aeth i Ninefe, yn ôl gair yr Arglwydd. A Ninefe oedd ddinas fawr iawn o daith tri diwrnod.

4. A Jona a ddechreuodd fyned i'r ddinas daith un diwrnod, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Deugain niwrnod fydd eto, a Ninefe a gwympir.

5. A gwŷr Ninefe a gredasant i Dduw, ac a gyhoeddasant ympryd, ac a wisgasant sachliain, o'r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt.

6. Canys gair a ddaeth at frenin Ninefe, ac efe a gyfododd o'i frenhinfainc, ac a ddiosgodd oddi amdano ei frenhinwisg, ac a roddes amdano liain sach, ac a eisteddodd mewn lludw.

7. Ac efe a barodd gyhoeddi, a dywedyd trwy Ninefe, trwy orchymyn y brenin a'i bendefigion, gan ddywedyd, Dyn ac anifail, eidion a dafad, na phrofant ddim; na phorant, ac nac yfant ddwfr.

8. Gwisger dyn ac anifail â sachlen, a galwant ar Dduw yn lew: ie, dychwelant bob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus, ac oddi wrth y trawster sydd yn eu dwylo.

9. Pwy a ŵyr a dry Duw ac edifarhau, a throi oddi wrth angerdd ei ddig, fel na ddifether ni?

10. A gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt, droi ohonynt o'u ffyrdd drygionus; ac edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedasai y gwnâi iddynt, ac nis gwnaeth.