1. A Jona a weddïodd ar yr Arglwydd ei Dduw o fol y pysgodyn,
2. Ac a ddywedodd, O'm hing y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a'm hatebodd; o fol uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llef.
3. Ti a'm bwriaist i'r dyfnder, i ganol y môr; a'r llanw a'm hamgylchodd: dy holl donnau a'th lifeiriaint a aethant drosof.
4. A minnau a ddywedais, Bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf eto tua'th deml sanctaidd.
5. Y dyfroedd a'm hamgylchasant hyd yr enaid; y dyfnder a ddaeth o'm hamgylch; ymglymodd yr hesg am fy mhen.
6. Disgynnais i odre'r mynyddoedd; y ddaear a'i throsolion oedd o'm hamgylch yn dragywydd: eto ti a ddyrchefaist fy einioes o'r ffos, O Arglwydd fy Nuw.
7. Pan lewygodd fy enaid ynof, cofiais yr Arglwydd; a'm gweddi a ddaeth i mewn atat i'th deml sanctaidd.
8. Y neb a gadwant oferedd celwydd, a wrthodant eu trugaredd eu hun.
9. A minnau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti, talaf yr hyn a addunedais. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd.
10. A llefarodd yr Arglwydd wrth y pysgodyn, ac efe a fwriodd Jona ar y tir sych.