Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Jona 1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jona mab Amitai, gan ddywedyd,

2. Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn; canys eu drygioni hwynt a ddyrchafodd ger fy mron.

3. A Jona a gyfododd i ffoi i Tarsis oddi gerbron yr Arglwydd: ac efe a aeth i waered i Jopa, ac a gafodd long yn myned i Tarsis, ac a dalodd ei llong-log hi, ac a aeth i waered iddi i fyned gyda hwynt i Tarsis, oddi gerbron yr Arglwydd.

4. Ond yr Arglwydd a gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr dymestl fawr, fel y tybygwyd y drylliai y llong.

5. Yna y morwyr a ofnasant, ac a lefasant bob un ar ei dduw, a bwriasant y dodrefn oedd yn y llong i'r môr, i ymysgafnhau ohonynt: ond Jona a aethai i waered i ystlysau y llong, ac a orweddasai, ac a gysgasai.

6. A meistr y llong a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddarfu i ti, gysgadur? cyfod, galw ar dy Dduw: fe allai yr ystyr y Duw hwnnw wrthym, fel na'n coller.

7. A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, Deuwch, a bwriwn goelbrennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom. A bwriasant goelbrennau, a'r coelbren a syrthiodd ar Jona.

8. A dywedasant wrtho, Atolwg, dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn: beth yw dy gelfyddyd di? ac o ba le y daethost? pa le yw dy wlad? ac o ba bobl yr wyt ti?

9. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a'r sychdir.

10. A'r gwŷr a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, Paham y gwnaethost hyn? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr Arglwydd, oherwydd efe a fynegasai iddynt.

11. A dywedasant wrtho, Beth a wnawn i ti, fel y gostego y môr oddi wrthym? canys gweithio yr oedd y môr, a therfysgu.

12. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Cymerwch fi, a bwriwch fi i'r môr; a'r môr a ostega i chwi; canys gwn mai o'm hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi.

13. Er hyn y gwŷr a rwyfasant i'w dychwelyd i dir; ond nis gallent: am fod y môr yn gweithio, ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy.

14. Llefasant gan hynny ar yr Arglwydd, a dywedasant, Atolwg, Arglwydd, atolwg, na ddifether ni am einioes y gŵr hwn, ac na ddyro i'n herbyn waed gwirion: canys ti, O Arglwydd, a wnaethost fel y gwelaist yn dda.

15. Yna y cymerasant Jona, ac a'i bwriasant ef i'r môr: a pheidiodd y môr â'i gyffro.

16. A'r gwŷr a ofnasant yr Arglwydd ag ofn mawr, ac a aberthasant aberth i'r Arglwydd, ac a addunasant addunedau.

17. A'r Arglwydd a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jona. A Jona a fu ym mol y pysgodyn dri diwrnod a thair nos.