Hen Destament

Testament Newydd

Joel 3:8-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A minnau a werthaf eich meibion a'ch merched i law meibion Jwda, a hwythau a'u gwerthant i'r Sabeaid, i genedl o bell; canys yr Arglwydd a lefarodd hyn.

9. Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd, gosodwch ryfel, deffrowch y gwŷr cryfion, nesaed y gwŷr o ryfel, deuant i fyny.

10. Gyrrwch eich sychau yn gleddyfau, a'ch pladuriau yn waywffyn: dyweded y llesg, Cryf ydwyf.

11. Ymgesglwch, a deuwch, y cenhedloedd o amgylch ogylch, ac ymgynullwch: yno disgyn, O Arglwydd, dy gedyrn.

12. Deffroed y cenhedloedd, a deuant i fyny i ddyffryn Jehosaffat: oherwydd yno yr eisteddaf i farnu yr holl genhedloedd o amgylch.

13. Rhowch i mewn y cryman; canys aeddfedodd y cynhaeaf: deuwch, ewch i waered; oherwydd y gwryf a lanwodd, a'r gwasg-gafnau a aethant trosodd, am amlhau eu drygioni hwynt.

14. Torfeydd, torfeydd a fydd yng nglyn terfyniad: canys agos yw dydd yr Arglwydd yng nglyn terfyniad.

Darllenwch bennod gyflawn Joel 3