Hen Destament

Testament Newydd

Joel 3:4-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Tyrus hefyd a Sidon, a holl ardaloedd Palesteina, beth sydd i chwi a wneloch â mi? a delwch i mi y pwyth? ac os telwch i mi, buan iawn y dychwelaf eich tâl ar eich pen eich hunain;

5. Am i chwi gymryd fy arian a'm haur, a dwyn i'ch temlau fy nhlysau dymunol.

6. Gwerthasoch hefyd feibion Jwda a meibion Jerwsalem i'r Groegiaid, i'w pellhau oddi wrth eu hardaloedd.

7. Wele, mi a'u codaf hwynt o'r lle y gwerthasoch hwynt iddo, ac a ddatroaf eich tâl ar eich pen eich hunain.

8. A minnau a werthaf eich meibion a'ch merched i law meibion Jwda, a hwythau a'u gwerthant i'r Sabeaid, i genedl o bell; canys yr Arglwydd a lefarodd hyn.

9. Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd, gosodwch ryfel, deffrowch y gwŷr cryfion, nesaed y gwŷr o ryfel, deuant i fyny.

10. Gyrrwch eich sychau yn gleddyfau, a'ch pladuriau yn waywffyn: dyweded y llesg, Cryf ydwyf.

11. Ymgesglwch, a deuwch, y cenhedloedd o amgylch ogylch, ac ymgynullwch: yno disgyn, O Arglwydd, dy gedyrn.

12. Deffroed y cenhedloedd, a deuant i fyny i ddyffryn Jehosaffat: oherwydd yno yr eisteddaf i farnu yr holl genhedloedd o amgylch.

Darllenwch bennod gyflawn Joel 3