Hen Destament

Testament Newydd

Joel 3:17-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Felly y cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd: yna y bydd Jerwsalem yn sanctaidd, ac nid â dieithriaid trwyddi mwyach.

18. A'r dydd hwnnw y bydd i'r mynyddoedd ddefnynnu melyswin, a'r bryniau a lifeiriant o laeth, a holl ffrydiau Jwda a redant gan ddwfr, a ffynnon a ddaw allan o dŷ yr Arglwydd, ac a ddyfrha ddyffryn Sittim.

19. Yr Aifft a fydd anghyfannedd, ac Edom fydd anialwch anghyfanheddol, am y traha yn erbyn meibion Jwda, am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu tir hwynt.

20. Eto Jwda a drig byth, a Jerwsalem o genhedlaeth i genhedlaeth.

21. Canys glanhaf waed y rhai nis glanheais: canys yr Arglwydd sydd yn trigo yn Seion.

Darllenwch bennod gyflawn Joel 3