1. Canys wele, yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, pan ddychwelwyf gaethiwed Jwda a Jerwsalem,
2. Casglaf hefyd yr holl genhedloedd, a dygaf hwynt i waered i ddyffryn Jehosaffat; a dadleuaf â hwynt yno dros fy mhobl, a'm hetifeddiaeth Israel, y rhai a wasgarasant hwy ymysg y cenhedloedd, a rhanasant fy nhir.
3. Ac ar fy mhobl y bwriasant goelbrennau, a rhoddasant y bachgen er putain, a gwerthasant fachgennes er gwin, fel yr yfent.
4. Tyrus hefyd a Sidon, a holl ardaloedd Palesteina, beth sydd i chwi a wneloch â mi? a delwch i mi y pwyth? ac os telwch i mi, buan iawn y dychwelaf eich tâl ar eich pen eich hunain;
5. Am i chwi gymryd fy arian a'm haur, a dwyn i'ch temlau fy nhlysau dymunol.
6. Gwerthasoch hefyd feibion Jwda a meibion Jerwsalem i'r Groegiaid, i'w pellhau oddi wrth eu hardaloedd.