Hen Destament

Testament Newydd

Joel 2:7-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Rhedant fel glewion, dringant y mur fel rhyfelwyr, a cherddant bob un yn ei ffordd ei hun, ac ni wyrant oddi ar eu llwybrau.

8. Ni wthiant y naill y llall; cerddant bob un ei lwybr ei hun: ac er eu syrthio ar y cleddyf, nid archollir hwynt.

9. Gwibiant ar hyd y ddinas; rhedant ar y mur, dringant i'r tai; ânt i mewn trwy y ffenestri fel lleidr.

10. O'u blaen y crŷn y ddaear, y nefoedd a gynhyrfir; yr haul a'r lleuad a dywyllir, a'r sêr a ataliant eu llewyrch.

11. A'r Arglwydd a rydd ei lef o flaen ei lu: canys mawr iawn yw ei wersyll ef: canys cryf yw yr hwn sydd yn gwneuthur ei air ef: oherwydd mawr yw dydd yr Arglwydd, ac ofnadwy iawn; a phwy a'i herys?

12. Ond yr awr hon, medd yr Arglwydd, Dychwelwch ataf fi â'ch holl galon, ag ympryd hefyd, ac ag wylofain, ac â galar.

13. A rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw: oherwydd graslon a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.

14. Pwy a ŵyr a dry efe, ac edifarhau, a gweddill bendith ar ei ôl, sef bwyd-offrwm a diod-offrwm i'r Arglwydd eich Duw?

15. Cenwch utgorn yn Seion, cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa:

16. Cesglwch y bobl; cysegrwch y gynulleidfa: cynullwch yr henuriaid; cesglwch y plant, a'r rhai yn sugno bronnau: deued y priodfab allan o'i ystafell, a'r briodferch allan o ystafell ei gwely.

17. Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, rhwng y porth a'r allor, a dywedant, Arbed dy bobl, O Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o'r cenhedloedd arnynt: paham y dywedent ymhlith y bobloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt?

Darllenwch bennod gyflawn Joel 2