14. Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos.
15. Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn.
16. Felly y mae gobaith i'r tlawd, ac anwiredd yn cau ei safn.
17. Wele, gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog.
18. Canys efe a glwyfa, ac a rwym: efe a archolla, a'i ddwylo ef a iachânt.
19. Mewn chwech o gyfyngderau efe 'th wared di; ie, mewn saith ni chyffwrdd drwg â thi.
20. Mewn newyn efe a'th wared rhag marwolaeth: ac mewn rhyfel rhag nerth y cleddyf.
21. Rhag ffrewyll tafod y'th guddir; ac nid ofni rhag dinistr pan ddelo.
22. Mewn dinistr a newyn y chwerddi; ac nid ofni rhag bwystfilod y ddaear.
23. Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi.
24. A thi a gei wybod y bydd heddwch yn dy luest: a thi a ymweli â'th drigfa, ac ni phechi.
25. A chei wybod hefyd mai lluosog fydd dy had, a'th hiliogaeth megis gwellt y ddaear.
26. Ti a ddeui mewn henaint i'r bedd, tel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser.
27. Wele hyn, ni a'i chwiliasom, felly y mae: gwrando hynny, a gwybydd er dy fwyn dy hun.