Hen Destament

Testament Newydd

Job 4:5-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ond yn awr, daeth arnat tithau, ac y mae yn flin gennyt; cyffyrddodd â thi, a chyffroaist.

6. Onid dyma dy ofn di, dy hyder, perffeithrwydd dy ffyrdd, a'th obaith?

7. Cofia, atolwg, pwy, ac efe yn ddiniwed, a gollwyd? a pha le y torrwyd y rhai uniawn ymaith?

8. Hyd y gwelais i, y rhai a arddant anwiredd, ac a heuant ddrygioni, a'u medant.

9. Gan anadl Duw y difethir hwynt, a chan chwythad ei ffroenau ef y darfyddant.

10. Rhuad y llew, a llais y llew creulon, a dannedd cenawon y llewod, a dorrwyd.

11. Yr hen lew a fethodd o eisiau ysglyfaeth; a chenawon y llew mawr a wasgarwyd.

12. Ac ataf fi y dygwyd gair yn ddirgel: a'm clust a dderbyniodd ychydig ohono.

13. Ymhlith meddyliau yn dyfod o weledigaethau y nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion,

14. Ofn a ddaeth arnaf, a dychryn, ac a wnaeth i'm holl esgyrn grynu.

15. Yna ysbryd a aeth heibio o flaen fy wyneb; ac a wnaeth i flew fy nghnawd sefyll.

16. Efe a safodd, ac nid adwaenwn ei agwedd ef: drychiolaeth oedd o flaen fy llygaid, bu distawrwydd, a mi a glywais lef yn dywedyd,

17. A fydd dyn marwol yn gyfiawnach na Duw? a fydd gŵr yn burach na'i wneuthurwr?

18. Wele, yn ei wasanaethwyr ni roddes ymddiried; ac yn erbyn ei angylion y gosododd ynfydrwydd:

19. Pa faint llai ar y rhai sydd yn trigo mewn tai o glai, y rhai sydd â'u sail mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?

20. O'r bore hyd hwyr y malurir hwynt; difethir hwynt yn dragywydd heb neb yn ystyried.

21. Onid aeth y rhagoriaeth oedd ynddynt ymaith? hwy a fyddant feirw, ac nid mewn doethineb.

Darllenwch bennod gyflawn Job 4