11. Yr hen lew a fethodd o eisiau ysglyfaeth; a chenawon y llew mawr a wasgarwyd.
12. Ac ataf fi y dygwyd gair yn ddirgel: a'm clust a dderbyniodd ychydig ohono.
13. Ymhlith meddyliau yn dyfod o weledigaethau y nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion,
14. Ofn a ddaeth arnaf, a dychryn, ac a wnaeth i'm holl esgyrn grynu.
15. Yna ysbryd a aeth heibio o flaen fy wyneb; ac a wnaeth i flew fy nghnawd sefyll.
16. Efe a safodd, ac nid adwaenwn ei agwedd ef: drychiolaeth oedd o flaen fy llygaid, bu distawrwydd, a mi a glywais lef yn dywedyd,
17. A fydd dyn marwol yn gyfiawnach na Duw? a fydd gŵr yn burach na'i wneuthurwr?
18. Wele, yn ei wasanaethwyr ni roddes ymddiried; ac yn erbyn ei angylion y gosododd ynfydrwydd:
19. Pa faint llai ar y rhai sydd yn trigo mewn tai o glai, y rhai sydd â'u sail mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?
20. O'r bore hyd hwyr y malurir hwynt; difethir hwynt yn dragywydd heb neb yn ystyried.
21. Onid aeth y rhagoriaeth oedd ynddynt ymaith? hwy a fyddant feirw, ac nid mewn doethineb.