Hen Destament

Testament Newydd

Job 37:6-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef.

7. Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef.

8. Yna yr â y bwystfil i'w loches, ac y trig yn ei le.

9. O'r deau y daw corwynt; ac oerni oddi wrth y gogledd.

10. Â'i wynt y rhydd Duw rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir.

Darllenwch bennod gyflawn Job 37