4. Sŵn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef.
5. Duw a wna daranau â'i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni.
6. Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef.
7. Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef.
8. Yna yr â y bwystfil i'w loches, ac y trig yn ei le.
9. O'r deau y daw corwynt; ac oerni oddi wrth y gogledd.
10. Â'i wynt y rhydd Duw rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir.
11. Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau.
12. Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear.
13. Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i'w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod.
14. Gwrando hyn, Job; saf, ac ystyria ryfeddodau Duw.
15. A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd Duw hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu?