15. A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd Duw hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu?
16. A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith‐gwbl o wybodaeth?
17. Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel â'r deheuwynt?
18. A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig?
19. Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho: ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch.
20. A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed neb, diau y llyncir ef.
21. Ac yn awr, ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau: ond myned y mae y gwynt, a'u puro hwynt.
22. O'r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy.
23. Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo'i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe.
24. Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.