11. Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau.
12. Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear.
13. Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i'w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod.
14. Gwrando hyn, Job; saf, ac ystyria ryfeddodau Duw.
15. A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd Duw hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu?
16. A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith‐gwbl o wybodaeth?
17. Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel â'r deheuwynt?
18. A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig?