1. Wrth hyn hefyd y crŷn fy nghalon, ac y dychlama hi o'i lle.
2. Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o'i enau ef.
3. Efe a'i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a'i fellt hyd eithafoedd y ddaear.
4. Sŵn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef.
5. Duw a wna daranau â'i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni.
6. Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef.
7. Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef.
8. Yna yr â y bwystfil i'w loches, ac y trig yn ei le.
9. O'r deau y daw corwynt; ac oerni oddi wrth y gogledd.
10. Â'i wynt y rhydd Duw rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir.
11. Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau.